PET(4)-02-12 p10a

P-04-328 Cynigion i Foderneiddio Gwasanaeth Gwylwyr y Glannau gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wneud asesiadau risg annibynnol o’r effaith ar ddiogelwch twristiaid sy’n ymweld â’r arfordir a fyddai’n dod yn sgil cau Canolfannau Cydgysylltu Achub ar y Môr Aberdaugleddau a Chaergybi ac israddio’r Ganolfan yn Abertawe i weithredu yn ystod ‘oriau dydd’.

Cyflwynwyd gan: Graham Warlow

Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:  Gorffennaf 2011

Nifer y llofnodion: 293

Gwybodaeth Ategol:

Ar 16 Rhagfyr 2010, lansiodd Llywodraeth Glymblaid y DU ymgynghoriad Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ar foderneiddio’r gwasanaethau a ddarperir gan Wylwyr y Glannau ar gyfer y 21ain ganrif. Yn wreiddiol, roedd y broses ymgynghori i fod i ddod i ben ar 24 Mawrth 2011, ond newidiwyd y dyddiad cau i 5 Mai 2011.

Cynnig Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ar gyfer Cymru yw cau’r Canolfannau Cydlynu Achub Morol yn Aberdaugleddau a Chaergybi, ac israddio canolfan Abertawe i weithredu yn ystod golau dydd yn unig. (Rwy’n cymryd y bydd yn ofynnol bod Abertawe yn gyfrifol am arfordir Cymru i gyd yn ystod y dydd, er na ddarparwyd y wybodaeth hon yn ymgynghoriad Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.)

Gyda’r nos, bydd gwasanaethau cydlynu gwasanaethau Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi yn cael eu canoli mewn Canolfan Gweithrediadau Morol yn Southampton neu yn Portsmouth.

Mynegwyd pryderon difrifol ledled y DU y bydd cau’r Canolfannau Cydlynu Achub Morol hefyd yn arwain at golli gwybodaeth leol werthfawr a hanfodol, ac ynghylch yr effaith y byddai hyn yn ei chael ar y gallu i ymateb i argyfwng. Hefyd, mynegwyd pryder sylweddol ynghylch y diffyg asesiadau risg a gyflwynwyd ochr yn ochr â’r ymgynghoriad.

Ymhen amser, cyhoeddwyd crynodeb o asesiadau risg gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, ond mae’n ymddangos eu bod yn dangos tuedd o blaid cynigion yr Asiantaeth, ac ysgrifennwyd rhai elfennau ohonynt ar ôl i’r Pwyllgor Dethol ar Drafnidiaeth wneud cais i’r dogfennau gael eu cyhoeddi. (Mae asesiadau risg ar gael.)

Ffurfiwyd nifer o ymgyrchoedd lleol ledled y DU ynghyd â nifer o ddeisebau. Yn Aberdaugleddau, cychwynnwyd deiseb leol ar bapur ac ar-lein. Casglwyd dros 20,000 o lofnodion yn gwrthwynebu cynigion moderneiddio Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau. Cyflwynwyd y ddeiseb honno i Stryd Downing, ynghyd â deiseb ar-lein genedlaethol yn cynnwys 15,000 o lofnodion, ddydd Mawrth 29 Mehefin 2011.

Oherwydd bod gan gymaint o bobl bryderon difrifol am y mater hwn, lansiodd y Pwyllgor Dethol ar Drafnidiaeth ymchwiliad llawn i gynigion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ar gyfer moderneiddio’r gwasanaethau a ddarperir gan Wylwyr y Glannau, llongau tywys mewn argyfwng a’r grŵp ymateb i ddigwyddiadau morol.

Cyflwynodd ymgyrch Achub Gwasanaeth Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau ymateb ffurfiol i’r Pwyllgor Dethol ar Drafnidiaeth a gwahoddwyd un o’r ymgyrchwyr i San Steffan i roi tystiolaeth yn y sesiwn dystiolaeth lafar olaf ar 24 Mai 2011. (Mae ymateb i’r ymgynghoriad ar gael.)

Roedd adroddiad canlynol y Pwyllgor Dethol ar Drafnidiaeth ar foderneiddio gwasanaeth gwylwyr y glannau yn feirniadol iawn o broses ymgynghori'r Asiantaeth. Dywedodd;

“By failing to involve serving coastguard officers, unions, volunteers, stakeholders or the devolved administrations in the drafting of the current proposals for the future of the Coastguard, and by failing to publish a risk assessment of the current plans or an impact assessment of the previous round of closures until prompted, the MCA management has badly miscalculated. It has mishandled the consultation and made it appear opaque rather than clear and open-minded. It has appeared arrogant, and reluctant to open itself to proper scrutiny in the process. The atmosphere of disquiet and suspicion generated by this consultation process is of the MCA's own making.”

Cynhaliwyd nifer o ddadleuon yn San Steffan ar y cynigon i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau, ynghyd â dadl fer yn y Senedd. Yn yr holl ddadleuon hyn, roedd gwrthwynebiad trawsbleidiol i’r cynigion.

Hefyd, cynhaliodd yr Asiantaeth gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled y DU. Roedd y cyhoedd yn  frwd yn ei wrthwynebiad ac ar ddiwedd nifer o’r cyfarfodydd, cafwyd pleidleisiau o ddim hyder yn y cynigion. (trawsgrifiadau ar gael)

Ar 19 Mai 2011, cyhoeddodd Phillip Hammond AS fod Llywodraeth y DU yn edrych ar gynigion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau unwaith eto,  gan ychwanegu at y ddamcaniaeth y gallai rhai Canolfannau Achub Gwylwyr y Glannau gael eu harbed.

Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi gosod tasg i’r Tîm Adolygu Annibynnol o ddadansoddi tua 1,700 o ymatebion i’r cynigion, a bydd yn cyhoeddi ei adroddiad ei hun maes o law.

Mae’r Llywodraeth wedi datgan y bydd yn cyhoeddi ‘cynigion amgen’ cyn i doriad Tŷr Cyffredin ddechrau ar 19 Gorffennaf. Rydym yn aros am y cyhoeddiad hwnnw.

Yn y cyfamser, cychwynnwyd e-ddeiseb i annog Llywodraeth Cymru i gynnal ei hasesiadau risg annibynnol ei hun ar dwristiaeth arfordirol sy’n gysylltiedig â chau Canolfannau Cydlynu Achub Morol yn Aberdaugleddau a Chaergybi ac israddio'r ganolfan yn Abertawe i oriau golau dydd yn unig.